Hamdden.

Os ydych chi’n ffansi paned o goffi, pryd o fwyd neu fynd i wylio’r ffilm ddiweddaraf yn Vue, trowch at y cyfeiriadur isod i gael manylion cyswllt ac oriau agor ein gwasanaethau. Mae’n bosib bydd yr amseroedd agor yn newid, felly cysylltwch â’r lleoliad yn uniongyrchol os ydych chi’n mynd yna’n unswydd.

Coffee #1
Mae Coffee#1 yn gweini coffi wedi’i baratoi â llaw ochr yn ochr â detholiad deniadol o fyrbrydau brecwast, paninis, teisennau a chacennau. Gyda’i awyrgylch clyd a hamddenol, mae’n lle perffaith i ddal i fyny gyda ffrindiau, i gael hoe o siopa, neu i ymlacio gyda llyfr da dros baned o’ch hoff goffi.
Costa
Mae Costa Coffee yn gweini coffi wedi’i baratoi’n arbennig yn ogystal â detholiad o de, diodydd oer, cacennau, teisennau a byrbrydau sawrus. Os ydych chi’n cael clonc dros goffi, yn cael hoe o siopa neu’n cael paned sydyn yn eich llaw, mae gennym rywbeth i bawb yma drwy gydol y dydd.
Harvester
Mae Harvester yn cynnig lle hamddenol a chyfeillgar i deuluoedd fwynhau bwyd wedi’i baratoi’n ffres drwy gydol y dydd. Dewiswch o fwydlen amrywiol o seigiau wedi’u grilio, byrgyrs, hen ffefrynnau ac opsiynau ysgafnach, ochr yn ochr â’r bar salad diderfyn poblogaidd – perffaith ar gyfer prydau teuluol, dal i fyny gyda ffrindiau neu fwynhau pryd...
Pizza Express
Mae PizzaExpress yn gweini eich hoff fwydydd Eidalaidd wedi’u paratoi’n ffres mewn awyrgylch hamddenol a chroesawgar. Mwynhewch y pitsas traddodiadol a’u Dough Balls enwog yn ogystal â’u pasta, salad a phwdinau. Mae opsiynau llysieuol, fegan a heb glwten ar gael a bwydlen benodol i blant hefyd. Mae’n ddewis gwych ar gyfer dathliad teuluol neu bryd...
The Welsh House
Mae The Welsh House yn fwyty a bar annibynnol sy’n dathlu’r gorau o fwyd a diod Cymru. Mwynhewch fwydlen o glasuron Cymreig swmpus a ffefrynnau modern, wedi’u paratoi gan ddefnyddio cynnyrch o safon o bob cwr o Gymru. Yn ogystal â bwydlen flasus The Welsh House, mae Salvatore’s Pizzeria yn gweini pitsas Eidalaidd, wedi’u paratoi’n...
Toby Carvery
Toby Carvery yw Cartref y Cinio Rhost, gan weini ffefrynnau carferi traddodiadol mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar i deuluoedd. Mwynhewch gigoedd wedi’u coginio’n araf, llysiau wedi’u paratoi’n ffres, tatws rhost crensiog a phwdinau Swydd Efrog, gydag amrywiaeth o seigiau ac opsiynau eraill ar gael drwy gydol y dydd.
VUE
Mae Vue Caerfyrddin yn dod â phrofiad y sgrin fawr i Rodfa Santes Catrin ar draws chwe sgrin sinema. Dewch i weld y ffilmiau mawr diweddaraf a’ch hoff ffilmiau teuluol mewn 4K gyda Dolby Surround Sound. Ceir hefyd dangosiadau arbennig a digwyddiadau Sgrin Fawr gan gynnwys theatr, cerddoriaeth, chwaraeon a mwy.