Mae The Welsh House yn fwyty a bar annibynnol sy’n dathlu’r gorau o fwyd a diod Cymru. Mwynhewch fwydlen o glasuron Cymreig swmpus a ffefrynnau modern, wedi’u paratoi gan ddefnyddio cynnyrch o safon o bob cwr o Gymru.
Yn ogystal â bwydlen flasus The Welsh House, mae Salvatore’s Pizzeria yn gweini pitsas Eidalaidd, wedi’u paratoi’n ffres gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau o Gymru a’r Eidal. Dewch i fwynhau’r awyrgylch hamddenol a chroesawgar yn y bar bywiog a’r teras awyr agored lle gallwch fwynhau pryd blasus neu ddiodydd gyda ffrindiau.