Gwybodaeth.

Rydym yma i helpu! Mae’n bwysig i ni fod eich ymweliad â Rhodfa Santes Catrin yn hywlus ac yn ddidrafferth, ac mae gennym amrywiol wasanaethau i’ch helpu.

Rheolwr y Canolfan

Rheolwr y canolfan yw John Nash.
Gallwch gysylltu ag ef ar 01267 243 040 neu anfonwch e-bost.

ORIAU AGOR Y GANOLFAN

Dyma oriau craidd y ganolfan siopa. Sylwch y gall amseroedd siopau unigol amrywio.

  • Dydd Llun-Gwener 9am – 5.30pm
  • Dydd Sadwrn 9am – 5.30pm
  • Dydd Sul 10.30am – 4.30pm
  • Gŵyl y Banc 10am – 4pm

Shopmobility a Hygyrchedd

Os hoffech chi ddefnyddio ein gwasanaethau shopmobility, gallwch ddod o hyd iddynt ar lawr gwaelod ein maes parcio ger y lifftiau. Gallwch gysylltu â Shopmobility ar 01267 233 699.

Mae lifftiau’n cysylltu’r maes parcio aml-lawr â’r siopau, ac mae cymorth sain a Braille ar gael.

Cyfleusterau

Mae toiledau a chyfleusterau newid cewynnau ar gael yn Pizza Express ac wrth ymyl Marchnad Dan Do Caerfyrddin. Mae toiledau hygyrch hefyd ar gael mewn rhai lleoliadau bwyd a diod, gan gynnwys Costa a Coffee #1.

Clicio a Chasglu

Mae llawer o’n siopau yn cynnig gwasanaeth Clicio a Chasglu – lle gallwch archebu nwyddau ar-lein ac yna eu casglu yn y siop – mae’n rhwydd. Gallwch weld pa siopau sy’n cynnig y gwasanaeth hwn yn ein cyfeiriadur siopau

Diogelwch ac Eiddo Coll

Os cewch eich gwahanu oddi wrth eich plentyn wrth siopa, ewch at un o’n swyddogion diogelwch neu ffoniwch ein swyddfa reoli ganolog ar 01267 243 040. Os ydych chi wedi colli rhywbeth, ffoniwch y rhif uchod.

Parcio Car

Mae lle i barcio 950 o geir yn ein maes parcio diogel (gan gynnwys 30 lle parcio i’r anabl) ac mae ar agor 24 awr y dydd. Mae’r maes parcio yn cael ei reoli gan APCOA a gallwch gysylltu â nhw ar 01267 237 313.

I weld prisiau parcio, cyfleusterau gwefru cerbydau trydan, opsiynau talu a rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.