Dod o hyd i ni.

Mae Rhodfa Santes Catrin wedi ei lleoli yng nghanol Caerfyrddin, wrth ymyl y Farchnad Dan Do.

Cyfeiriad

Rhodfa Santes Catrin
Heol y Gwyddau
Caerfyrddin SA31 1GA

Cyfarwyddiadau

Sut i Gyrraedd Yma

Mewn Car

Rhowch SA31 1GA neu 4 Heol y Gwyddau yn eich teclyn llywio â lloeren, ac fe fydd yn eich tywys chi i’n maes parcio.

Os ydych yn teithio tua’r Gorllewin ar hyd yr M4, pan fyddwch chi’n cyrraedd diwedd y draffordd dilynwch yr A48 i Gaerfyrddin cyn ymuno â’r A4242 i ganol y dref, gan ddilyn yr arwyddion am Rhodfa Santes Catrin.

Os ydych yn teithio tua’r dwyrain i Gaerfyrddin, dilynwch yr A40. Ar yr A48 o gyfeiriad y Gogledd a’r De, dilynwch yr arwyddion i ganol y dref.

Ar y Bws

I gael gwybodaeth am wasanaethau bysiau i Gaerfyrddin, cliciwch yma. Fel arall, ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 22 33 (7am–10pm bob dydd) neu ewch i www.travelinecymru.info.

Ar y Trên

I gael gwybodaeth am Orsaf Reilffordd Caerfyrddin, cliciwch yma. I gael amseroedd trenau a chynllunio eich taith, cliciwch yma.

Parcio Car

Mae lle i 950 o geir yn ein maes parcio diogel (gan gynnwys 30 o leoedd parcio i bobl anabl) ac mae ar agor 24 awr y dydd. Mae’r maes parcio yn cael ei reoli gan APCOA a gallwch gysylltu â nhw ar 01267 237 313 neu drwy eu gwefan yma.

Tariffau Parcio

Dydd Llun – Dydd Sul

Hyd at 1 awr: £3.00
Hyd at 2 awr: £4.00
Hyd at 3 awr: £5.00
Hyd at 4 awr: £6.00
Hyd at 24 awr: £8.00
Tariff Cynnar (Cyrraedd cyn 09:30): £2.70 am y diwrnod cyfan.

Opsiynau Talu

Talwch am eich parcio yn gyflym ac yn gyfleus gan ddefnyddio APCOA Connect. Mae’r ap yn eich galluogi i dalu’n ddiogel o’ch ffôn symudol heb fod angen arian parod na thocyn.

Lawrlwythwch APCOA Connect o Apple App Store neu Google Play Store.

Cod lleoliad: 2735

Gallwch hefyd ddewis talu drwy Pay by App a LatePay.

Gwefru Cerbydau Trydan

Mae Rhodfa Santes Catrin yn cynnig cyfleusterau gwefru cerbydau trydan, gydag opsiynau sy’n addas ar gyfer gwahanol gerbydau ac anghenion gwefru.

  • Gwefrwyr Cyflym Tesla: 12 pwynt gwefru cyflym, am bris o £0.75–£0.80 y kWh. Gellir talu drwy ap Tesla.
  • Gwefrwyr Cyflym Compleo: 5 pwynt gwefru, am bris o £0.65 y kWh. Defnyddiwch ap APCOA Connect i ddechrau, stopio a thalu am eich sesiwn wefru.

I gael rhagor o wybodaeth am wefru cerbydau trydan, gan gynnwys cwestiynau cyffredin, ewch i wefan APCOA.

Cyfleusterau a Gwasanaethau Parcio

Mae’r maes parcio yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau i wneud eich ymweliad mor gyfleus â phosibl:

  • Lleoedd parcio hygyrch
  • Lleoedd parcio i rieni a phlant
  • Lleoedd parcio premiwm
  • Gwefru e-feiciau a lle storio diogel
  • Loceri Clicio a Chasglu (Amazon, InPost a ByBox)
  • System teledu cylch cyfyng (CCTV)

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael, ewch i wefan APCOA.

Parcio Wedi’i Archebu Ymlaen Llaw a Thocynnau Tymor

Ydych chi’n dueddol o drefnu lle parcio ymlaen llaw neu ydych chi’n parcio yma’n rheolaidd? Mae APCOA yn cynnig sesiynau parcio y gellir eu harchebu ymlaen llaw a thocynnau tymor i wneud parcio’n fwy cyfleus.

Mae tocynnau tymor yn darparu mynediad diderfyn yn ystod oriau agor y maes parcio a gallant gynnig arbedion o gymharu â’r tariffau parcio dyddiol. Mae opsiynau premiwm, wythnosol, chwarterol a blynyddol ar gael.

Ewch i APCOA Prebook i archebu lle parcio ymlaen llaw, neu edrychwch ar APCOA Season Tickets i ddod o hyd i’r opsiwn gorau ar gyfer eich anghenion.