Gwasanaethau.

I gael manylion cyswllt ac oriau agor ein gwasanaethau, trowch at y cyfeiriadur isod. Mae’n bosib bydd yr amseroedd agor yn newid, felly cysylltwch â’r lleoliad yn uniongyrchol os ydych chi’n mynd yna’n unswydd.

Hays Travel
Hays Travel yw asiant teithio annibynnol mwyaf y DU, gan gynnig cyngor arbenigol a gwyliau sy’n addas ar gyfer amrywiaeth eang o gyllidebau ac arddulliau teithio. Gall eu tîm gwybodus eich helpu i gynllunio ac archebu eich gwyliau perffaith, gan gynnwys gwyliau traeth, ymweliad â dinas, mordaith, gwyliau hollgynhwysol a theithiau wedi’u teilwra’n arbennig.
iCrack
Mae iCrack yn cynnig gwasanaethau atgyweirio proffesiynol ar gyfer ffonau clyfar a dyfeisiau eraill, gan helpu i gael eich technoleg yn gweithio unwaith eto. Gall eu technegwyr helpu gydag amrywiaeth o broblemau cyffredin, gan gynnwys sgriniau wedi cracio, problemau batri, difrod dŵr, seinyddion diffygiol, colli signal neu fotymau diffygiol. Gallant helpu i atgyweirio eich dyfais...
Timpson
Mae Timpson yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau hwylus ac mae gennym arbenigedd sydd wedi’i feithrin dros genedlaethau. Ewch i gangen Caerfyrddin i dorri allwedd, trwsio esgidiau, lluniau pasbort, ysgythru tlysau, trwsio oriawr a llawer iawn mwy. Bydd ein staff cyfeillgar a gwybodus wrth law i helpu.
Towy Community Church
Mae Eglwys Gymunedol Towy yn lle croesawgar lle gall pobl ddod ynghyd, archwilio ffydd, meithrin cyfeillgarwch a chysylltu â’r gymuned leol. Drwy ei Phrosiect Xcel, mae’r eglwys hefyd yn cefnogi pobl ledled Caerfyrddin drwy fentrau sy’n cynnwys banc bwyd, ailgylchu a chymorth ymarferol i’r rhai sydd mewn angen.
Vision Express
Mae Vision Express yn cynnig gofal llygaid arbenigol, gydag archwiliadau llygaid trylwyr a chyngor proffesiynol gan ei dîm profiadol. Mae gennym ddewis eang o fframiau dylunwyr, sbectol presgripsiwn, sbectol haul a lensys cyffwrdd gydag opsiynau sy’n diwallu eich holl anghenion ac sy’n cynnig gwerth da am arian.
Vodafone
Mae gan Vodafone ddewis eang o ffonau symudol, tabledi, cynlluniau talu ac atebion cysylltedd i bob math o gwsmeriaid. Os ydych yn chwilio am ddyfais newydd, yn uwchraddio eich hen ffôn, neu’n ystyried opsiynau SIM a Thalu Wrth Fynd, gall ein tîm yn y siop gynnig cyngor arbenigol a’ch helpu i ddod o hyd i’r...