Dydd Sadwrn Nadoligaidd yn Rhodfa Santes Catrin!
- Cerddoriaeth gan Frenhines yr Iâ
- Cerddwyr Stiltiau'r Ffyn Candy
- Dewch i gwrdd â Mrs Claus
- Merched Nadoligaidd ar Stiltiau
- Tylwyth Teg Dymuniadau Rhyfeddol
- Dewch i gwrdd â'r Ceirw Sboncio
Ymunwch â ni am ddau ddydd Sadwrn hudolus o adloniant Nadoligaidd AM DDIM yn Rhodfa Santes Catrin y Nadolig hwn!
Paratowch ar gyfer dathliad bendigedig yn llawn cymeriadau Nadoligaidd, perfformiadau hudolus a digonedd o hwyl yr ŵyl i’r teulu cyfan ei fwynhau!
Ar ddydd Sadwrn 28 Tachwedd, rhwng 12pm a 4pm, ymunwch â ni am brynhawn gwych o hwyl yr ŵyl, gyda cherddoriaeth fyw hyfryd gan Frenhines yr Iâ, perfformiadau ysblennydd gan Gerddwyr Stiltiau’r Ffyn Candy ac ymweliad arbennig gan Mrs Claus, a fydd yn lledaenu hud y Nadolig ac yn dod â gwen i wynebau ymwelwyr o bob oed!
Bydd y dathliadau’n parhau ar ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr, rhwng 12pm a 4pm, gyda hyd yn oed mwy o adloniant hudolus! Cadwch eich llygaid ar agor am ein Merched Nadoligaidd ar Stiltiau disglair, dewch i gwrdd â’r Tylwyth Teg Dymuniadau Rhyfeddol hudolus a dywedwch helo wrth ein Ceirw Sboncio bendigedig, a fydd yn dod â digonedd o hwyl a chwerthin Nadoligaidd i Rodfa Santes Catrin.
P’un a ydych chi’n dechrau ar eich siopa Nadolig, yn mwynhau diwrnod allan gyda’r teulu neu’n syml yn mwynhau awyrgylch yr ŵyl, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau!
Peidiwch â cholli’r hwyl Nadoligaidd yn Rhodfa Santes Catrin y Nadolig hwn!