Beth sy'n Newydd.
StCaths_SwitchOn_EventPage

21/11/2026

Hwyl yr Ŵyl

  • Crefftau Nadolig AM DDIM yng ‘Ngorsaf y Corachod’
  • Dewch i gwrdd â’r Corachod Nadolig ar Stelcennau
  • Corachod Ffyn Candy ar Sgïau
  • Hwla Nadoligaidd gan Angie Mack
  • Cynnau Goleuadau Nadolig Caerfyrddin am 4.30pm

Mae hwyl Nadoligaidd hudolus ar ei ffordd i Rhodfa Santes Catrin fis Tachwedd eleni, gyda digwyddiad Nadolig AM DDIM i’r teulu cyfan ei fwynhau!

Ymunwch â ni ar ddydd Sadwrn 21 Tachwedd, rhwng 12pm a 4pm, wrth i ni gychwyn dathliadau’r Nadolig gydag adloniant Nadoligaidd, gweithgareddau crefft creadigol a digonedd o hwyl yr ŵyl.

Gall y corachod bach ymuno yn ysbryd y Nadolig yn ein ‘Gorsaf y Corachod’ AM DDIM, lle gallant fwynhau gweithgareddau crefft Nadoligaidd a chreu rhywbeth arbennig i fynd adref gyda nhw!

Cadwch lygad am ein Corachod Nadolig ar Stelcennau ysblennydd a’r Corachod Ffyn Candy ar Sgïau direidus, a fydd yn lledaenu hud y Nadolig ac yn dod â gwên i wynebau ymwelwyr drwy gydol y dydd.

Peidiwch â cholli’r wych Angie Mack, a fydd yn ychwanegu ychydig o ddisgleirdeb at y dathliadau gyda’i pherfformiad Hwla Nadoligaidd syfrdanol!

Ac nid dyna ddiwedd yr hwyl! Ewch draw i Sgwâr y Neuadd ar 4.30pm ar gyfer Cynnau Goleuadau Nadolig Caerfyrddin, wrth i’r dref ddod yn fyw gyda hud y Nadolig.

Felly, casglwch eich corachod bach, gwisgwch yn gynnes ac ymunwch â ni am brynhawn bendigedig o hwyl Nadoligaidd AM DDIM i’r teulu cyfan yn Rhodfa Santes Catrin!